Text Box: Elin Jones AC
 Y Llywydd 
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mai 2017

Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru

Annwyl Lywydd,

Ymhellach i’n trafodaeth ynghylch materion yn ymwneud â Brexit yn Fforwm y Cadeirydd ar 3 Ebrill 2017, dyma ysgrifennu i’ch gwahodd i gyfrannu i ymchwiliad y Pwyllgor i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru.

Bydd i Fil y Diddymu Mawr yn ei ddiwyg terfynol oblygiadau sylweddol o ran rôl y Cynulliad yn y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac o ran ei le yn nhrefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

O ran a fwrir ymlaen â’r cynigion fel y’u nodir yn y Papur Gwyn, bydd hynny’n dibynnu ar ganlyniad Etholiad Cyffredinol y DU. Serch hynny, y Papur Gwyn yw’r cyfle cyntaf i’r Cynulliad ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth, a gellid dadlau mai hwn yw’r cyfle gorau sydd ganddo.

Mae dwy brif agwedd ar y gwaith craffu hwn:

  1. Datganoli: sicrhau nad yw’r Cynulliad na Gweinidogion Cymru yn cael eu hatal rhag cymryd rhan briodol yn y broses; a
  2. Cydbwysedd o ran pŵer y weithrediaeth: sef taro’r cydbwysedd priodol rhwng y pwerau a’r cyflymder sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru i gwblhau eu tasg ddeddfwriaethol a’r angen am oruchwyliaeth briodol gan y Cynulliad.

Byddwn yn croesawu eich barn am Bapur Gwyn y Diddymiad Mawr ac am ddull deddfwriaethol ehangach Llywodraeth y DU o ran ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Dyma ein cylch gorchwyl:

Yng nghyd-destun Papur Gwyn Llywodraeth y DU, i asesu:

-      a ddiogelir rôl y Cynulliad ym mhroses ddeddfwriaethol Brexit, ac o ran craffu ar swyddogaethau gweithredol, yn y meysydd cymhwysedd datganoledig;

-      a ddilynir egwyddorion deddfu effeithiol;

-      a oes gan bobl Cymru, rhanddeiliaid a sefydliadau ddigon o gyfle i gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol y mae’r Bil yn eu sefydlu;

-      a yw’r Bil yn galluogi’r Cynulliad i arfer rheolaeth briodol dros y pwerau dirprwyedig a ddarperir gan y Bil; ac

-      a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigonol.

Mae ein Pwyllgor yn paratoi i gasglu tystiolaeth yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad yn gynnar ym mis Mehefin. Os ydych am ymateb i’r llythyr hwn, yna byddwn yn ddiolchgar am gael clywed gennych erbyn dydd Mercher 24 Mai 2017.

Mae’n fwriad gennym barhau â’n gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth hon (a’i goblygiadau yn ystod ac ar ôl y broses Brexit) os caiff Bil y Diddymu Mawr ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a byddaf yn ysgrifennu atoch eto os bydd yr amserlen ar gyfer hyn yn dod yn gliriach.

Yn gywir,

David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol